Tyfu Sir Gâr: Caffael blaengar, cadwyni cyflenwi a chyfleoedd i’r dyfodol

Tyfu Sir Gâr: Caffael blaengar, cadwyni cyflenwi a chyfleoedd i’r dyfodol
Digwyddiad ar-lein ar ddydd Mawrth, 16eg o Fawrth 2021 (14:00-16:30)
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr (BGC) yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu ei drefniadau caffael bwyd yn y sector cyhoeddus. Nod y gwaith, sy’n cael ei ariannu drwy Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, yw herio’r ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn caffael ei gyflenwadau bwyd tra hefyd yn pwyso a mesur y gadwyn cyflenwi bwyd leol sydd ar gael ar hyn o bryd a chyfleoedd datblygu i’r dyfodol. Mae’n ceisio sefydlu ffordd newydd o weithio y gellid ei hailadrodd o bosibl ar draws yr holl nwyddau a gwasanaethau eraill a gaffaelir gan y sector cyhoeddus.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr i rannu canfyddiadau’r gwaith hyd yma, dysgu o feysydd eraill sydd eisoes wedi dechrau a datblygu’r dull hwn ac i osod y cefndir i’r sector cyhoeddus fod yn sail i newid wrth symud ymlaen drwy gaffael cynyddol.
Hoffem ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i nodi cyfleoedd i ddatblygu’r gwaith hwn yn lleol drwy gydweithio. Drwy gyrchu lleol a chaffael doethach, ein nod yw trawsnewid y berthynas rhwng y sector cyhoeddus a chadwyni cyflenwi bwyd, gan wneud y mwyaf o werth gwariant caffael mewn cymunedau lleol tra’n trosglwyddo i system fwyd leol gynaliadwy.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Aled Rhys Jones a bydd y siaradwyr allweddol yn cynnwys:
- Barry Liles, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chadeirydd BGC Sir Gaerfyrddin
- Yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd
- Simon Wright, Wright’s Food Emporium
- Line Rise Nielsen, Model Copenhagen
- Greg Parsons, South West Food Hub
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a gallwch gofrestru yma.