Seminar Strategaeth y Dyfodol Sioe Sirol Westmorland

Hwyluso Seminar Strategaeth y Dyfodol ar gyfer Sioe Sirol Westmorland
Gwahoddwyd Aled Rhys Jones i gyflwyno canfyddiadau ei Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield gerbron aelodau a swyddogion Cymdeithas Amaethyddol Sirol Westmorland yn ei Seminar Strategaeth y Dyfodol. Roedd ei adroddiad yn gymhelliant i feddwl am rôl cymdeithasau a sioeau amaethyddol yn y dyfodol a bu’n rhannu heriau cyffredin ac enghreifftiau o arfer da o bedwar ban byd.
Bu Aled hefyd yn hwyluso’r seminar a rhannwyd y cyfranogwyr yn grwpiau trafod syndicat er mwyn ystyried y weledigaeth ar gyfer eu cymdeithas, eu sioe a maes y sioe. Roedd y meysydd testun yn cynnwys llywodraethiant, strwythurau pwyllgorau, denu pobl ifanc a’r genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr, cynhyrchu nawdd, addysgu’r cyhoedd am fwyd a ffermio, datblygiad maes y sioe yn y dyfodol a marchnata. Cymerodd bob grŵp ei dro i adrodd yn ôl ar ffrwyth eu trafodaethau a bu Aled yn helpu crisialu a chrynhoi’r prif themâu gan sicrhau, ar yr un pryd, fod amcanion y dydd yn cael eu cyflawni gyda meddwl clir, gwrthrychedd a phawb a oedd yno yn cymryd rhan yn dda ac yn ymuno yn ysbryd y seminar.