Cynnyrch Lleol Ffres ar gyfer Ysgolion

Cynnyrch Lleol Ffres ar gyfer Ysgolion – Astudiaeth Ddichonoldeb ar y Gadwyn Gyflenwi
Comisiynwyd Aled Rhys Jones, ochr yn ochr â PER Consulting Ltd, i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i archwilio’r cyfleoedd i gryfhau’r gadwyn gyflenwi leol ar gyfer cynnyrch ffres mewn prydau ysgol. Paratowyd yr adroddiad ar ran Cyngor Bro Morgannwg ac aeth Aled ati i gynnal rhaglen helaeth o ymgynghori ac ymgysylltu gydag amrywiaeth o randdeiliaid ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Daeth yr adroddiad i’r casgliad mai cadwyn gyflenwi gymysg fyddai fwyaf addas yn y dyfodol. Gellir cael rhai cynhyrchion lleol trwy drafod ond ni fyddai’n cymryd lle’r gadwyn gyflenwi Gyfanwerthu yn llwyr. Argymhellodd yr adroddiad hefyd y dylai contractau cyfanwerthu newydd roi mwy o bwyslais ar gynnyrch o Gymru ac y dylent fod wedi eu strwythuro ar sail anecsgliwsif fel bod lle i rai cynhyrchion lleol uniongyrchol hefyd. Mae copi llawn o’r adroddiad ar gael yma.